Cymorth Ariannol – sut i wneud cais

Mae Cyngor Tref Tregaron yn derbyn ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau gwirfoddol o fewn Ward Tregaron trwy gydol y flwyddyn. Dyrennir cyllid yn flynyddol yng nghyfarfod misol y Cyngor ym mis Mehefin.

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen isod a’i gyflwyno ynghyd â chyfrifon blynyddol cymeradwy diweddaraf y mudiad i’r Clerc drwy e-bost – clerc@cyngor-tregaron@council.org.uk neu bost – Ffynnon Garon, Stryd y Capel, Tregaron, Ceredigion, SY25 6HD erbyn Mai 31 fan bellaf.